Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Climate Change, Environment and Rural Affairs Committee

Ymchwiliad i Dlodi Tanwydd | Inquiry into Fuel Poverty

FP 19

Ymateb gan : Cyngor Gwynedd

Evidence from : Gwynedd Council

 

 

1.   Fel gellir gweld o ddata WIMD, caiff Gwynedd ei effeithio yn sylweddol gan faterion tlodi tanwydd, yn benodol Tanygrisiau (ward Bowydd a Rhiw), un o’r ardaloedd mwyaf ddifreintiedig yng Nghymru. O ganlyniad, rydym yn llawn ymwybodol o’r her sy’n ein wynebu, a gwelwn bod anawsterau o ran cael atebion dilys a fforddiadwy ar gyfer tai mewn angen mwyaf.

 

2.   Mae gennym bryder bod ymgyrchoedd yn y gorffennol wedi canolbwyntio ar y cynnydd hawsaf, nid o reidrwydd yn mynd ar ôl achosion anodd fyddai’n cael y budd mwyaf. Mae angen canolbwyntio ar yr ardaloedd mwyaf amddifad, a blaenoriaethu codi pobl o fand EPC E/F/G, nid canolbwyntio ar band EPC C/D.

 

3.   Mae’r ffocws yn y gorffennol wedi bod ar wardiau nid strydoedd. Golygir hyn gall strydoedd ac eiddo cefnog o fewn ward difreintiedig elwa o dderbyn mesurau tlodi tanwydd dros strydoedd ac unigolion difreintiedig mewn ward mwy cefnog. Pryder fod rhai pobl sydd efo’r modd wedi elwa ar draul pobl sydd heb fodd. Angen targedu unigolion mwyaf bregus sydd heb fodd i dalu eu hunain.

 

4.   Rydym wedi profi rhwystredigaeth yn rhai o’r ymgyrchoedd blaenorol o ran cyfyngiadau, diffyg adnodd rheoli a gweinyddu ac amserlen cyflawni. Rydym hefyd fel Awdurdod Lleol wedi etifeddu cyfrifoldeb delio efo anawsterau yn deillio o gynlluniau (trosglwyddo cyfrifoldebau am wireddu diffygion i Awdurdodau Lleol heb gyllideb), sydd wedi profi yn amhoblogaidd yn yr ardal, enwedig pan fo’r cwmni a wnaed y gwaith yn diflannu.

 

5.   Rydym yn siomedig efo diffyg cynnydd Arbed3. Cyflwynwyd y cais wreiddiol 2017, ac nid ydym wedi gweld buddiannau na chynnydd hyd yma. Derbyniwyd ymateb ym mis Medi fod y cynllun rhy ddrud, ond roedd rhaid erfyn am dystiolaeth i gefnogi’r benderfyniad. Nid ydym chwaith wedi derbyn cynigion eraill ar gyfer yr ardal, ond yn hytrach ardaloedd eraill ble gellir gweithredu (cyfeirir nol i baragraff 2). Rydym yng Ngwynedd yn awyddus i weithredu ond mae trefniadau penderfyniadau / gweithredu yn rhy hir ac anodd sy’n golygu ein bod yn colli momentwm ac yn gorfod bod yn ofalu i reoli disgwyliadau cymunedau.

 

6.   Mae angen atebion a datrysiadau ar gyfer eiddo gwledig sy’n bell o rhwydwaith nwy, ac ar gyfer tai hyn. Awgrymir bod yr atebion a chynhigir yn drefol eu naws ac angen graddfa ar rhai cynlluniau i’w gwireddu. Er enghraifft, insiwleiddio waliau allanol yn siwtio tai teras, ond ddim yn cymryd i ystyriaeth tai sengl mewn ardaloedd gwledig.

 

7.   Safonau tai newydd – Mae’r gwahaniaeth rhwng adeiladu tŷ ‘arferol’ a thŷ carbon niwtral yn sylweddol (yn enwedig mewn datblygiad fawr). Rhaid cael modd i ariannu cost uwch o roi mesuriadau mewn tai newydd nes bydd y gost hynny yn gostwng i lefel mwy fforddiadwy. A dylid y gwahaniaeth rhwng cost tŷ arferol a chost tŷ carbon niwtral yn cael ei ariannu gan y Llywodraeth?

 

8.   I grynhoi, credwn bod angen modelau atal tlodi tanwydd i gyfarch yr anghenion canlynol:

-          Addas i ardaloedd a thai gwledig

-          Tai hyn, wedi’u hadeiladu cyn 1919

-          Poblogaeth ar wasgar

-          Ffocws ar rheini gyda’r angen uchaf o dlodi tanwydd a heb y gallu i gyfarch y problemau eu hunain

-          Annog arloesi a darbodion maint (economies of scale ) i leihau costau